Comisiwn y Cynulliad |
Lleoliad: |
Swyddfa'r Llywydd, 4ydd Llawr, Tŷ Hywel |
|
|
||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 24 Ionawr 2013 |
|
|||
Amser: |
10:30 - 12:30 |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion: AC(4)2013(2) |
|||||
|
|
|
|||
Yn bresennol: |
|
Rosemary Butler (Cadeirydd) Peter Black Angela Burns Sandy Mewies Rhodri Glyn Thomas |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Claire Clancy, Y Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad (Swyddog) Ian Summers (Swyddog) Dave Tosh, Cyfarwyddwr Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (Swyddog) Craig Stephenson, Prif Ysgrifennydd Preifat y Llywydd (Swyddog) Carys Evans, Prif Ysgrifennydd y Comisiwn (Swyddog)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
Mair Barnes, Cynghorwr Annibynnol David Melding, y Dirprwy Lywydd
|
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad y Cadeirydd
1(i) Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau.
1(ii) Datganiadau o fuddiant
Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.
2. Adolygiad o Effeithiolrwydd y Comisiwn
Yn unol ag egwyddorion Llywodraethu'r Comisiwn, cwblhawyd adolygiad o effeithlonrwydd y Comisiwn yn ddiweddar gan Ian Summers.
Cynhaliwyd trafodaethau â'r Comisiynwyr a nifer o unigolion eraill i lywio’r gwaith hwn. Yn gyffredinol, roedd y canfyddiadau'n ffafriol iawn ac yn amlygu'r ffaith bod cryn dipyn o gynnydd wedi'i wneud hyd yma yn ystod y Pedwerydd Cynulliad. Nodwyd rhai meysydd yr oedd angen eu datblygu ymhellach, gan gynnwys yr angen i ystyried materion strategol ac i asesu perfformiad. Roedd y Comisiynwyr hefyd yn gefnogol iawn i'r argymhelliad y dylid mabwysiadu agwedd gadarnhaol a rhagweithiol tuag at y cyfryngau a chyfeiriwyd at enghreifftiau da o hyn a gafwyd yn ddiweddar.
Nododd y Comisiynwyr yr argymhellion a amlygwyd yn yr adroddiad gan gytuno y byddent yn adolygu cynnydd ymhen chwe mis.
Cam i'w gymryd: Byddai crynodeb o'r adroddiad yn cael ei gynnwys yn Adroddiad Blynyddol y Comisiwn ar gyfer 2012-13 fel rhan o'r Datganiad Llywodraethu.
3. Adroddiad ar Gynnydd a Pherfformiad TGCh
Yn dilyn y penderfyniad o blaid datblygu gwasanaeth TGCh mewnol cymysg, cafodd y Comisiynwyr eu hadroddiad cynnydd cyntaf hyd yma.
Gwnaed cynnydd sylweddol ers y penderfyniad ddechrau mis Rhagfyr o blaid datblygu gwasanaeth mewnol cymysg. Roedd swyddogion y Comisiwn wedi bod yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ac Atos i sicrhau cyfnod pontio didrafferth ac i sicrhau parhad y gwasanaeth. Mae gwaith ar y gweill i feithrin arbenigedd mewnol, gan gynnwys penodi Rheolwr Pontio profiadol dros dro. Gwnaed cynnydd hefyd o ran treialu cymwysiadau newydd a dulliau o weithio a fyddai'n cynnig rhagor o hyblygrwydd yn y dyfodol. Cytunwyd i baratoi nodyn i Peter Black ei anfon at yr Aelodau yn dweud bod modd gweld papurau'r pwyllgorau a'r Cyfarfodydd Llawn ar declynnau llechen.
Cytunodd y Comisiynwyr i beidio â chyhoeddi'r adroddiad o ystyried natur fasnachol y wybodaeth roedd yn ei chynnwys.
4. Arolwg Boddhad Defnyddwyr i Aelodau’r Cynulliad a staff cymorth – Canfyddiadau a Chynllun Gweithredu
Cynhaliwyd arolwg boddhad defnyddwyr ymhlith Aelodau’r Cynulliad a'u staff cymorth ym mis Gorffennaf 2012. Cafodd y Comisiynwyr grynodeb o'r casgliadau a'r camau sy'n cael eu cymryd i ymdrin â'r materion a amlygwyd.
Y sgôr boddhad cyfartalog ar gyfer yr arolwg yn gyffredinol oedd 7.6 gan yr Aelodau a 7.5 gan eu staff cymorth.
Caiff y canlyniadau a’r camau gweithredu eu rhannu â'r Aelodau a'u staff cymorth a chaiff arolygon bodlonrwydd cwsmeriaid eu cynnal yn amlach i ddangos cynnydd ac i dynnu sylw at faterion eraill y dylid ymdrin â nhw.
Pwysleisiodd y Comisiynwyr yr angen i ddwyn canlyniadau arolygon o'r fath i'w sylw cyn gynted â phosibl yn y dyfodol. Cytunwyd y byddai arolygon yn y dyfodol yn cynnwys cwestiynau mwy penodol ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau gwahanol.
Byddai'r wybodaeth a gasglwyd yn creu rhan o'r dangosyddion perfformiad allweddol, a byddai'r rhain yn cael eu hystyried gan y Comisiwn fis Chwefror.
5. Adroddiad ar y prif bwyntiau i’r Comisiwn Ionawr 2013
Roedd yr adroddiad hwn yn nodi materion o ddiddordeb i'r Comisiynwyr, yn unol â'r nodau strategol. Yn y dyfodol, bydd hyn yn rhan o becyn adroddiad perfformiad cynhwysfawr a fydd hefyd yn cynnwys yr adroddiad rheolaidd ar TGCh a dangosyddion perfformiad allweddol.
Nododd y Comisiynwyr y digwyddiadau a'r gweithgareddau allgymorth amrywiol a gynhaliwyd, gan bwysleisio pwysigrwydd estyn allan at bawb yng Nghymru, a gofynnwyd am wybodaeth i ddangos i ba raddau yr ymgysylltwyd â chyrff proffesiynol. Pwysleisiwyd hefyd yr angen i dynnu mwy o sylw at gyfleoedd hyfforddi i staff cymorth. Gofynnodd y Comisiynwyr i'r cynllun prentisiaeth newydd gael ei ddefnyddio'n llawn gan bwysleisio y dylid tynnu sylw at lwyddiant y cynllun.
6. Papur i’w nodi – Cofnodion y Pwyllgor Archwilio
Yn eu cyfarfod ar 28 Tachwedd, trafododd y Comisiynwyr gyfarfod y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd. Nododd y Comisiynwyr y cofnodion yn ffurfiol.
7. Unrhyw Fusnes Arall
Cafwyd sylwadau cadarnhaol ynghylch y rhestr termau deddfwriaethol Cymraeg a baratowyd gan y Gwasanaeth Ymchwil.
Yr Ysgrifenyddiaeth
Ionawr 2013